Skip to content

Gweithio yn y gymuned

Mae'r Brifysgol Agored yng Nghymru'n cydweithio'n agos gyda chymunedau lleol ar draws Cymru ac amrywiaeth o bartneriaethau cymunedol, sefydliadau gwirfoddol a darparwyr hyfforddiant lleol yn y  rhanbarthau i leihau rhwystrau i addysg uwch a chodi uchelgais a gwella sgiliau yn y cymunedau mwyaf difreintiedig ar draws Cymru.

Mae’r Brifysgol Agored yn cynnig dysgu o bell â chymorth yn rhan amser. Mae hyn yn golygu y gall pobl astudio o gartref (neu unrhyw le arall) a ffitio’u hastudiaethau o gwmpas eu hymrwymiadau o ran gwaith a bywyd. Mae holl gyrsiau’r Brifysgol Agored yn cynnig credydau ar lefel addysg uwch a gallant gyfrif tuag at radd neu gymhwyster arall. Gellir hefyd cymryd cyrsiau’n unigol a gallant gysylltu’n uniongyrchol â datblygu sgiliau ar gyfer gwaith. Mae model cyflenwi’r Brifysgol Agored yn cynnig ffyrdd amgen o symud ymlaen neu bontio i addysg uwch i fyfyrwyr lle nad yw astudio ar gampws confensiynol ar gael neu lle mae’n anodd cael mynediad ato.
 
Yn unol â chyfarwyddiadau Llywodraeth Cymru a chenhadaeth cyfiawnder cymdeithasol y Brifysgol Agored mae’r Brifysgol Agored yng Nghymru’n gweithio mewn partneriaeth, ar draws y tri rhanbarth (Canolbarth/Gogledd, De ddwyrain a De orllewin) yng Nghymru i ddatblygu rhaglenni llwybrau arloesol i helpu i sicrhau bod myfyrwyr annhraddodiadol yn cael y cymorth angenrheidiol i fanteisio ar addysg uwch a chyflawni eu nodau o ran astudio.
 
Mae gwaith Ehangu Mynediad y Brifysgol Agored yng Nghymru, a ariennir trwy Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC), yn targedu darpar fyfyrwyr sy’n byw mewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf yn ogystal â grwpiau eraill sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, gan gynnwys pobl anabl a gofalwyr.
 
 

Cysylltu â ni
029 2047 1170 - wales@open.ac.uk
Cysylltu â ni - i sefydliadau
Gogledd a Chanolbarth Cymru - Gayle Hudson 07500 974 332
De ddwyrain a De orllewin Cymru - Eleri Chilcott 07500 974 329