Cydnabod cyflawniad a dathlu llwyddiant”
Rhai o’r uchafbwyntiau a llwyddiannau o waith Ehangu Mynediad y Brifysgol Agored yng Nghymru dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf:
Ym mis Mawrth 2012 enillodd y Brifysgol Agored yng Nghymru y brif wobr gan yr Universities Association of Lifelong Learning (UALL) gyda'i Brosiect "Mynediad i addysg i Ofalwyr".
Yn 2009 datblygodd y Brifysgol Agored yng Nghymru bartneriaeth beilot yn ardal Merthyr, gyda Chelfyddydau Gwirfoddol Cymru a Hafal. Ar ôl digwyddiad blasu Diwrnod Agored cychwynnol a gynhaliwyd yng nghanolfan cymorth Hafal, cofrestrodd deg defnyddiwr gwasanaeth am un o gyrsiau Openings y Brifysgol Agored. Ers hynny mae nifer o aelodau’r grŵp wedi symud ymlaen i astudiaethau isradd pellach ac yn 2011 enillodd “Grŵp Hafal": Sharon Harris, Shan Davies, Christine Hodges a Susanne Mahoney, wobr Grŵp Cymunedol y Flwyddyn yng ngwobrau NIACE Dysgu Cymru.
Aeth y myfyriwr anabl Richard Zimbler i ddiwrnod gwybodaeth arbennig i bobl anabl a gynhaliwyd gan y Brifysgol Agored yn y Drenewydd, Powys yn 2009. Bellach mae’n astudio ei drydydd modiwl ac yn gweithio tuag at ei radd. Yn 2011 enillodd Richard wobr Dysgwr o Bell y Flwyddyn yng ngwobrau Addysg Oedolion NIACE Dysgu Cymru.
Mae Tracey Hudson yn byw gyda’i mab ifanc yn ardal Trelái yng Nghaerdydd. Cofrestrodd am un o gyrsiau Openings y Brifysgol Agored ym mis Tachwedd 2009 ar ôl digwyddiad blasu yr aeth iddo yn ysgol ei mab. I Tracey, roedd y gweithdy blasu cychwynnol "fel chwa o awyr iach” ac fe’i hysbrydolodd i symud ymlaen i ddysgu o bell gyda’r Brifysgol Agored yng Nghymru. Yn 2010 enillodd Tracey wobr Dysgwr Addysg Uwch y Flwyddyn yng ngwobrau NIACE Dysgu Cymru.
Dechreuodd Katrina ar un o’n cyrsiau Openings yn 2008, ar ôl i’r Brifysgol Agored gynnal digwyddiad yn ei chanolfan Cymunedau yn Gyntaf leol. Mae wedi gwneud cynnydd gwych a bellach mae’n astudio ei thrydydd modiwl ac mae ganddi 120 o bwyntiau credyd tuag at ei gradd.