Hoff brifysgol Cymru”
Mae pobl wrth eu boddau yn astudio gyda'r Brifysgol Agored yng Nghymru - dyma pam eu bod yn ein henwi fel prifysgol orau Cymru yn rheolaidd o ran boddhad cyffredinol myfyrwyr.*
Ble bynnag rydych yn byw, boed yng Nghaerdydd, Wrecsam, Caernarfon neu Lanelli, nid yw eich lleoliad yn eich rhwystro rhag astudio gyda'r Brifysgol Agored yng Nghymru. At hynny, mae ein cyrsiau yn hyblyg felly gallwch astudio ar adeg ac mewn lleoliad sy'n addas i chi, ochr yn ochr ag ymrwymiadau eraill fel eich swydd, cyfrifoldebau gofalu neu fywyd teuluol prysur.
Nid oes angen cymwysterau ffurfiol arnoch i astudio yn y Brifysgol Agored ac mae llawer o gyrsiau ar gael i bobl sy'n newydd i fyd astudio. Efallai y gallech gael cymorth ariannol hefyd. Defnyddiwch ein Prawf Cymhwysedd Cymorth Ariannol i weld pa gymorth ariannol sydd ar gael. Neu gwyliwch fideo fer sy’n esbonio’r opsiynau ariannu a ffyrdd arall sut i dalu.
Nid yw Llywodraeth Cymru yn newid trefniadau ariannu myfyrwyr rhan-amser yng Nghymru ar gyfer 2013/14, ac felly fydd ffioedd israddedigion myfyrwyr y Brifysgol Agored yng Nghymru ar gyfer 2013/14 dim ond yn newid, fel arfer, gyda chwyddiant.
I gael mwy o wybodaeth, ffoniwch ein cynghorwyr cymorth myfyrwyr lleol yn ein pencadlys yng Nghaerdydd ar (029) 2047 1170 neu anfonwch e-bost atom. Rydym hefyd ar gael mewn digwyddiadau ledled Cymru.Bachwch ein hamrywiaeth o ganllawiau sgiliau astudio, ar gael yn Saesneg a Chymraeg.
*Yn ôl Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol 2011